1 Aeth un deg pedair blynedd heibio cyn i mi fynd yn ôl i Jerwsalem eto. Es i gyda Barnabas y tro hwnnw, a dyma ni'n mynd â Titus gyda ni hefyd.
2 Roedd Duw wedi dangos i mi fod rhaid i mi fynd. Ces gyfarfod preifat gyda'r rhai sy'n cael eu hystyried yn arweinwyr ‛pwysig‛. Dyma fi'n dweud wrthyn nhw yn union beth dw i wedi bod yn ei bregethu fel newyddion da i bobl o genhedloedd eraill. Roeddwn i am wneud yn siŵr mod i ddim wedi bod yn gweithio mor galed i ddim byd.
3 Ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed orfodi Titus i fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, a dydy e ddim yn Iddew.
4 Roedd dryswch wedi codi am fod rhai pobl oedd yn smalio eu bod yn credu wedi eu hanfon i'n plith ni, fel ysbiwyr yn ein gwylio ni a'r rhyddid sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia Iesu. Roedden nhw eisiau ein gwneud ni'n gaeth unwaith eto,
5 ond wnaethon ni ddim rhoi i mewn iddyn nhw o gwbl. Roedden ni am wneud yn siŵr eich bod chi'n dal gafael yng ngwirionedd y newyddion da.
6 Felly beth oedd ymateb yr arweinwyr ‛pwysig‛ yma? – (dydy pwy oedden nhw'n gwneud dim gwahaniaeth i mi – does gan Dduw ddim ffefrynnau!) Doedd ganddyn nhw ddim o gwbl i'w ychwanegu at fy neges i.