3 Ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed orfodi Titus i fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, a dydy e ddim yn Iddew.
4 Roedd dryswch wedi codi am fod rhai pobl oedd yn smalio eu bod yn credu wedi eu hanfon i'n plith ni, fel ysbiwyr yn ein gwylio ni a'r rhyddid sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia Iesu. Roedden nhw eisiau ein gwneud ni'n gaeth unwaith eto,
5 ond wnaethon ni ddim rhoi i mewn iddyn nhw o gwbl. Roedden ni am wneud yn siŵr eich bod chi'n dal gafael yng ngwirionedd y newyddion da.
6 Felly beth oedd ymateb yr arweinwyr ‛pwysig‛ yma? – (dydy pwy oedden nhw'n gwneud dim gwahaniaeth i mi – does gan Dduw ddim ffefrynnau!) Doedd ganddyn nhw ddim o gwbl i'w ychwanegu at fy neges i.
7 Na, yn hollol i'r gwrthwyneb! Roedd hi'n gwbl amlwg iddyn nhw fod Duw wedi rhoi'r dasg i mi o gyhoeddi'r newyddion da i bobl o genhedloedd eraill, yn union fel roedd wedi rhoi'r dasg i Pedr o'i gyhoeddi i'r Iddewon.
8 Roedd yr un Duw oedd yn defnyddio Pedr fel ei gynrychiolydd i'r Iddewon, yn fy nefnyddio i gyda phobl o genhedloedd eraill.
9 Dyma Iago, Pedr ac Ioan (y rhai sy'n cael eu cyfri fel ‛y pileri‛, sef yr arweinwyr pwysica) yn derbyn Barnabas a fi fel partneriaid llawn. Roedden nhw'n gweld mai Duw oedd wedi rhoi'r gwaith yma i mi. Y cytundeb oedd ein bod ni'n mynd at bobl y cenhedloedd a nhw'n mynd at yr Iddewon.