Galatiaid 3:15-21 BNET

15 Frodyr a chwiorydd, gadewch i mi esbonio'r peth drwy ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd. Mae'r un fath ag ewyllys. Os ydy ewyllys wedi ei gwneud yn gyfreithlon does gan neb hawl i'w dileu hi nac ychwanegu dim ati.

16 Nawr, roedd Duw wedi rhoi addewid i Abraham ac i un o'i ddisgynyddion – sylwch mai ‛hedyn‛ ydy'r gair sy'n cael ei ddefnyddio yn yr ysgrifau sanctaidd, dim y gair lluosog ‛hadau‛ fyddai'n cyfeirio at lawer o bobl. Y ffurf unigol sy'n cael ei ddefnyddio, ac felly mae'n sôn am un person yn unig, sef y Meseia.

17 Dyma beth dw i'n ei ddweud: Allai'r Gyfraith, oedd wedi ei rhoi ar ôl 430 mlynedd, ddim dileu yr ymrwymiad hwnnw oedd Duw wedi ei wneud gynt ac wedi addo ei gadw.

18 Os ydy derbyn y cwbl mae Duw am ei roi i ni yn dibynnu ar gadw'r Gyfraith Iddewig, dydy e ddim yn ganlyniad i'r ffaith fod Duw wedi gwneud addewid! Ond beth wnaeth Duw yn ei haelioni oedd gwneud addewid i Abraham.

19 Felly beth oedd diben rhoi'r Gyfraith? Cafodd ei rhoi i ddangos i bobl beth ydy ystyr pechu, hyd nes i'r ‛hedyn‛ y soniwyd amdano gyrraedd – sef yr un oedd yr addewid yn cyfeirio ato. Cofiwch hefyd fod Duw wedi defnyddio angylion i roi'r Gyfraith i ni, a hynny trwy ganolwr, sef Moses.

20 Does ond angen canolwr pan mae mwy nag un ochr. Ond pan wnaeth Duw addewid i Abraham roedd yn gweithredu ar ei ben ei hun.

21 Felly, ydy hyn yn golygu bod y Gyfraith yn gwrth-ddweud beth wnaeth Duw ei addo? Na, dim o gwbl! Petai Duw wedi rhoi cyfraith oedd yn gallu rhoi bywyd i bobl, yna'n sicr byddai pobl yn gallu cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r gyfraith honno.