2 Atebwch un cwestiwn: Ddaeth yr Ysbryd Glân i'ch bywyd chi trwy i chi gadw'r Gyfraith Iddewig yn ddeddfol neu trwy i chi gredu'r neges am y Meseia?
3 Alla i ddim credu eich bod chi mor ddwl! Ar ôl dechrau byw dan ddylanwad yr Ysbryd, ydych chi'n mynd i geisio gorffen y daith yn eich nerth eich hunain?
4 Gawsoch chi'r holl brofiadau yna i ddim byd? – mae'n anodd gen i gredu hynny!
5 Wnaeth Duw roi ei Ysbryd i chi, a gwneud gwyrthiau yn eich plith chi, am eich bod chi wedi cadw holl fanion y Gyfraith Iddewig? Wrth gwrs ddim! Ond am eich bod wedi credu!
6 Meddyliwch am Abraham: “Credodd, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”
7 Felly, y rhai sy'n credu sy'n blant go iawn i Abraham!
8 Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw'n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e'i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw y newyddion da hwnnw gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”