22 Ond mae'r ysgrifau sanctaidd yn dangos yn glir fod pawb drwy'r byd i gyd yn gaeth i bechod. Y rhai sy'n credu sy'n derbyn beth wnaeth Duw ei addo, a hynny am fod Iesu Grist wedi bod yn ffyddlon.
23 Cyn i'r Meseia ddod roedd y Gyfraith yn ein dal ni'n gaeth – roedden ni dan glo nes i'w ffyddlondeb e gael ei ddangos i ni.
24 Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a'n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu ynddo.
25 Mae e wedi bod yn ffyddlon, ac felly dim y Gyfraith sy'n ein gwarchod ni bellach.
26 Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu.
27 Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda'r Meseia trwy eich bedydd – mae'r un fath â'ch bod wedi gwisgo'r Meseia amdanoch.
28 Sdim ots os ydych chi'n Iddew neu'n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu'n ddinesydd rhydd, yn ddyn neu'n wraig – dych chi i gyd fel un teulu sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.