5 Wnaeth Duw roi ei Ysbryd i chi, a gwneud gwyrthiau yn eich plith chi, am eich bod chi wedi cadw holl fanion y Gyfraith Iddewig? Wrth gwrs ddim! Ond am eich bod wedi credu!
6 Meddyliwch am Abraham: “Credodd, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”
7 Felly, y rhai sy'n credu sy'n blant go iawn i Abraham!
8 Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw'n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e'i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw y newyddion da hwnnw gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
9 A dyna sy'n digwydd! – y rhai sy'n credu sy'n cael y fendith, yn union yr un fath ag Abraham, achos credu wnaeth e.
10 Mae'r rhai sy'n meddwl y byddan nhw'n iawn am eu bod nhw'n cadw manion y Gyfraith Iddewig yn dal i fyw dan gysgod melltith. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Melltith ar bawb sydd ddim yn dal ati i wneud pob peth mae Llyfr y Gyfraith yn ei ddweud.”
11 Felly mae'n gwbl amlwg fod y Gyfraith ddim yn gallu dod â neb i berthynas iawn gyda Duw, am mai “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”