1 Dyma dw i'n olygu: Does gan blentyn sy'n mynd i dderbyn eiddo ei dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae'n dal dan oed – er mai'r plentyn hwnnw biau'r cwbl ar un ystyr!
2 Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i'r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai'n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun.
3 Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd.
4 Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi ei ddewis, anfonodd ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,
5 i dalu'r pris i'n rhyddhau ni oedd yn gaeth i'r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu'n blant i Dduw.