12 Frodyr a chwiorydd, dw i'n erfyn arnoch chi i fyw'n rhydd o bethau felly, fel dw i'n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o'r blaen.
13 Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi'r newyddion da i chi y tro cyntaf.
14 A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl ar fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i'r fath groeso gynnoch chi – fel petawn i'n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun!
15 Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i'n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu'ch llygaid eich hunain allan a'u rhoi nhw i mi petai'n bosib.
16 Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir?
17 Mae'r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio'ch cael chi i'w dilyn nhw, ond dŷn nhw'n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy'ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw.
18 “Mae'n beth da ceisio pobl gyda'r bwriad o wneud lles iddyn nhw” – felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas.