14 A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl ar fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i'r fath groeso gynnoch chi – fel petawn i'n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun!
15 Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i'n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu'ch llygaid eich hunain allan a'u rhoi nhw i mi petai'n bosib.
16 Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir?
17 Mae'r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio'ch cael chi i'w dilyn nhw, ond dŷn nhw'n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy'ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw.
18 “Mae'n beth da ceisio pobl gyda'r bwriad o wneud lles iddyn nhw” – felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas.
19 Fy mhlant annwyl i – dw i'n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i'w weld yn eich bywydau chi.
20 O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! – dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud!