20 O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! – dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud!
21 Dwedwch wrtho i – chi sydd eisiau cael eich rheoli gan fanion y Gyfraith Iddewig. Ydych chi ddim yn gwrando ar beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud?
22 Mae'n dweud fod Abraham wedi cael dau fab, un gan ei gaethferch a'r llall gan ei wraig.
23 Cafodd mab y gaethferch ei eni o ganlyniad i ymdrech dyn i gyflawni addewid Duw, ond cafodd mab ei wraig ei eni am fod Duw yn gwneud beth mae'n addo'i wneud.
24 Mae darlun yn yr hanes, a dyma'i ystyr: Mae'r ddwy wraig yn cynrychioli dau ymrwymiad wnaeth Duw. Mae Hagar, y gaethferch, yn cynrychioli'r un ar fynydd Sinai – ac mae ei phlant hi wedi eu geni yn gaethion.
25 Ac mae Hagar a Mynydd Sinai yn Arabia yn ddarlun o Jerwsalem fel y mae heddiw – mae hi a'i phlant yn gaethion.
26 Ond mae Sara gwraig Abraham, ar y llaw arall, yn wraig rydd, ac yn cynrychioli y Jerwsalem ysbrydol. Hi ydy'n mam ni!