3 Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd.
4 Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi ei ddewis, anfonodd ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,
5 i dalu'r pris i'n rhyddhau ni oedd yn gaeth i'r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu'n blant i Dduw.
6 A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy'n gweiddi, “Abba! Dad!”
7 Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau'n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi.
8 O'r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi'n gaeth i bwerau sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ ond sydd ddim wir yn dduwiau.
9 Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i'ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi'n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto?