1 Dŷn ni'n rhydd! Mae'r Meseia wedi'n gollwng ni'n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario'r baich o fod yn gaeth byth eto.
2 Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chi'n mynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i'w gynnig i chi bellach.
3 Dw i'n eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
4 Os dych chi'n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r Gyfraith, dych chi wedi eich torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw.
5 Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni'n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dyna'n gobaith sicr ni.