11 Frodyr a chwiorydd, os ydw i'n dal i bregethu bod rhaid mynd trwy ddefod enwaediad, pam ydw i'n dal i gael fy erlid? Petawn i'n gwneud hynny, fyddai'r groes ddim problem i neb.
12 Byddai'n dda gen i petai'r rhai sy'n creu'r helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain!
13 Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi'ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy'n esgus i adael i'r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd.
14 Mae yna un gorchymyn sy'n crynhoi'r cwbl mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”
15 Ond os dych chi'n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi'n dinistrio eich gilydd.
16 Beth dw i'n ei ddweud ydy y dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau.
17 Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae'r Ysbryd eisiau. Ond mae'r Ysbryd yn rhoi'r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae'r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi.