18 Ond os ydy'r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i'r Gyfraith Iddewig bellach.
19 Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a penrhyddid llwyr;
20 hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol,
21 eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.
22 Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb,
23 addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly.
24 Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda'i nwydau a'i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes.