19 Gallwch fod yn hollol siŵr o'r peth, frodyr a chwiorydd.Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer.
20 Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw.
21 Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a'r holl ddrygioni sy'n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi ei phlannu yn eich calonnau chi – dyna'r neges sy'n eich achub chi.
22 Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly!
23 Mae rhywun sy'n clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych.
24 Mae'n edrych arno'i hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno!
25 Ond mae'r un sy'n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn wahanol. Dydy'r sawl sy'n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi ei glywed; mae'n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae'n ei wneud!