4 Ac mae dal ati drwy'r cwbl yn eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth!
5 Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy'n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.
6 Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy'n amau yn debyg i donnau'r môr yn cael eu taflu a'u chwipio i bobman gan y gwynt.
7 Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd!
8 Dyn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw'n byw mewn ansicrwydd.
9 Dylai'r Cristion sy'n dod o gefndir tlawd frolio fod Duw wedi ei anrhydeddu,
10 ond dylai'r cyfoethog fod yn falch pan mae Duw yn ei ddarostwng. Bydd e'n diflannu fel blodyn gwyllt.