13 Pwy ohonoch chi sy'n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae'n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth.
14 Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i'r gwirionedd.
15 Dim dyna'r math o ‛ddoethineb‛ mae Duw'n ei roi i bobl! Yn hollol i'r gwrthwyneb! – mae ‛doethineb‛ felly yn beth bydol, anysbrydol, ac yn dod o'r diafol ei hun!
16 Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi'n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni.
17 Ond mae'r doethineb sy'n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae'n gwbl ddiduedd a diragrith.
18 Bydd y rhai sy'n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.