1 A chi bobl gyfoethog, gwrandwch! – dylech chi fod yn crïo ac yn griddfan o achos y dioddefaint sydd o'ch blaenau.
2 Mae'ch cyfoeth chi'n pydru a'ch dillad yn cael eu difa gan wyfynod.
3 Mae'ch aur a'ch arian chi'n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi'ch hunain mewn byd sy'n dod i ben.
4 Gwrandwch! Mae'r cyflogau dych chi heb eu talu i'r gweithwyr yn gweiddi'n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu'n casglu'r cynhaeaf yn eich caeau chi.
5 Dych chi wedi byw'n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi'ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi'n mynd i'r lladd-dy!