14 Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a'i eneinio gydag olew ar ran yr Arglwydd.
15 Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant.
16 Felly cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.
17 Dyn cyffredin fel ni oedd Elias, a gweddïodd yn gyson iddi beidio glawio, a wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner!
18 Wedyn gweddïodd eto, a dyma hi'n tywallt y glaw, ac roedd cnydau yn dechrau tyfu ar y ddaear eto.
19 Frodyr a chwiorydd, os bydd un o'ch plith chi'n troi i ffwrdd oddi wrth y gwirionedd, a rhywun arall yn ei arwain yn ôl,
20 gallwch fod yn siŵr o hyn: bydd y person sy'n ei droi yn ôl o'i ffyrdd ffôl yn achub y pechadur rhag marwolaeth dragwyddol ac yn maddau lot fawr o bechodau.