4 Gwrandwch! Mae'r cyflogau dych chi heb eu talu i'r gweithwyr yn gweiddi'n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu'n casglu'r cynhaeaf yn eich caeau chi.
5 Dych chi wedi byw'n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi'ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi'n mynd i'r lladd-dy!
6 Mae pobl ddiniwed sydd ddim yn gallu'ch gwrthwynebu chi wedi eu hecsbloetio a'u condemnio i farwolaeth gynnoch chi.
7 Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i'r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy'n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a'r gwanwyn i wneud i'r cnwd dyfu.
8 Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan.
9 Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi'ch cosbi. Mae'r Barnwr yn dod! Mae'n sefyll y tu allan i'r drws!
10 Ystyriwch y proffwydi hynny oedd yn cyhoeddi neges Duw – dyna i chi beth ydy amynedd yn wyneb dioddefaint!