8 Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan.
9 Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi'ch cosbi. Mae'r Barnwr yn dod! Mae'n sefyll y tu allan i'r drws!
10 Ystyriwch y proffwydi hynny oedd yn cyhoeddi neges Duw – dyna i chi beth ydy amynedd yn wyneb dioddefaint!
11 Fel dych chi'n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy'r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!
12 Ac yn olaf, frodyr a chwiorydd: peidiwch byth tyngu llw – ddim i'r nefoedd nac i'r ddaear na dim arall. Dylai dweud “ie” olygu “ie”, a dweud “na” olygu “na”, wedyn chewch chi mo'ch cosbi.
13 Oes rhywun yn eich plith chi mewn trafferthion? Dylai weddïo. Oes rhywun yn hapus? Dylai ganu cân o fawl i Dduw.
14 Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a'i eneinio gydag olew ar ran yr Arglwydd.