12 Mae'r bobl yma fel creigiau peryglus yn y môr. Maen nhw'n bwyta yn eich cariad-wleddoedd chi, ond yn poeni dim am arwyddocâd y pryd bwyd dych chi'n ei rannu! Dyn nhw'n meddwl am neb ond nhw eu hunain. Twyllwyr ydyn nhw! Maen nhw,Fel cymylau sy'n rhoi dim glaw,a'r gwynt yn eu chwythu nhw i ffwrdd.Fel coed heb ffrwyth i'w gasglu oddi arnyn nhw –yn hollol farw, wedi cael eu diwreiddio!
13 Fel tonnau gwyllt y môr,yn corddi ewyn eu gweithredoedd ffiaidd.Fel sêr gwib yn y gofod,a'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu am byth!
14 Proffwydodd Enoch amdanyn nhw ymhell bell yn ôl (saith cenhedlaeth ar ôl Adda): “Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod gyda miloedd ar filoedd o'i angylion sanctaidd.
15 Bydd yn barnu pawb, ac yn cosbi pechaduriaid annuwiol am bopeth drwg maen nhw wedi eu gwneud, ac am yr holl bethau sarhaus maen nhw wedi eu dweud amdano.”
16 Dydy'r bobl yma'n gwneud dim ond grwgnach a gweld bai ar eraill! Maen nhw'n gwneud pa ddrwg bynnag maen nhw eisiau! Maen nhw'n brolio eu hunain, a seboni pobl eraill os ydy hynny o ryw fantais iddyn nhw!
17 Ond cofiwch, ffrindiau annwyl, fod cynrychiolwyr personol ein Harglwydd Iesu Grist wedi dweud ymlaen llaw am hyn.
18 “Yn y dyddiau i ddod bydd pobl yn chwarae crefydd” medden nhw, “ac yn gwneud dim byd ond dilyn eu chwantau drwg.”