22 Byddwch yn amyneddgar gyda'r rhai sy'n ansicr.
23 Cipiwch allan o'r tân y rhai hynny sydd mewn peryg o losgi. Byddwch yn garedig wrth y rhai sy'n ffraeo ond yn ofalus yr un pryd. Mae eu pechodau nhw'n ffiaidd, fel dillad isaf budron!
24 Clod i Dduw! Fe ydy'r un sy'n gallu'ch cadw chi rhag llithro. Fe fydd yn eich galw i mewn i'w gwmni bendigedig, yn gwbl ddi-fai, i gael profi llawenydd anhygoel!
25 Fe ydy'r unig Dduw, sy'n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Mae e'n haeddu ei foli a'i fawrygu, ac mae ganddo nerth ac awdurdod absoliwt. Mae hynny o'r dechrau cyntaf, yn awr yn y presennol, ac am byth! Amen.