Jwdas 1:4-10 BNET

4 Y broblem ydy bod pobl sydd ddim yn gwrando ar Dduw wedi sleifio i mewn i'ch plith chi. Mae'r bobl yma yn dweud ein bod ni'n rhydd i fyw'n anfoesol, am fod Duw mor barod i faddau! Mae'r ysgrifau sanctaidd wedi dweud ers talwm fod pobl felly'n mynd i gael eu cosbi. Pobl ydyn nhw sy'n gwadu awdurdod Iesu Grist, ein hunig Feistr a'n Harglwydd ni.

5 Dych chi'n gwybod hyn eisoes, ond dw i am eich atgoffa chi: roedd Duw wedi achub ei bobl a'u helpu i ddianc o'r Aifft. Ond yn nes ymlaen roedd rhaid iddo ddinistrio rhai ohonyn nhw am eu bod nhw'n anffyddlon.

6 Wedyn beth am yr angylion hynny wrthododd gadw o fewn y ffiniau roedd Duw wedi eu gosod iddyn nhw? Roedden nhw eisiau mwy o awdurdod a dyma nhw'n gadael lle roedden nhw i fod i fyw. Does dim dianc iddyn nhw! Mae Duw wedi eu rhwymo nhw gyda chadwyni yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol. Maen eu cadw nhw yno yn disgwyl y diwrnod mawr pan fyddan nhw'n cael eu cosbi.

7 A chofiwch beth ddigwyddodd i Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas! Roedd anfoesoldeb rhywiol yn rhemp, ac roedden nhw eisiau cyfathrach annaturiol gyda'r angylion! Maen nhw'n dioddef yn y tân sydd byth yn diffodd, ac mae eu cosb nhw yn rhybudd i bawb.

8 Ac mae'r bobl hyn sydd wedi dod i'ch plith chi yr un fath! Breuddwydion ydy sail beth maen nhw'n ei ddysgu. Maen nhw'n llygru eu cyrff drwy wneud pethau anfoesol, yn herio awdurdod yr Arglwydd, ac yn dweud pethau sarhaus am yr angylion gogoneddus.

9 Wnaeth Michael y prif angel ddim meiddio hyd yn oed cyhuddo'r diafol o gablu pan oedd y ddau yn ymladd am gorff Moses. “Bydd Duw yn delio gyda thi!” ddwedodd e.

10 Ond mae'r bobl yma yn sarhau pethau dŷn nhw ddim yn eu deall! Maen nhw fel anifeiliaid direswm, yn dilyn eu greddfau rhywiol, ac yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau! A dyna'n union fydd yn eu dinistrio nhw yn y diwedd!