17 Felly os wyt ti'n cyfri dy fod yn bartner i mi, rho'r un croeso i Onesimws ag a fyddet ti'n ei roi i mi.
18 Os gwnaeth e unrhyw ddrwg i ti neu os oes arno rywbeth i ti, gwnaf i ei dalu'n ôl i ti.
19 Dw i'n ysgrifennu'r peth ac yn ei lofnodi fy hun: Gwna i ei dalu yn ôl, Paul. (Gobeithio bod dim rhaid i mi dy atgoffa di fod arnat ti dy fywyd i mi!)
20 Gwna hyn i mi fel ffordd o wasanaethu'r Arglwydd. Fy ffrind annwyl sy'n dilyn y Meseia, wnei di godi nghalon i?
21 Dw i'n ysgrifennu atat ti am fy mod i'n hollol siŵr y gwnei di beth dw i'n ei ofyn, a mwy na hynny.
22 Un peth arall: Cadw ystafell yn rhydd i mi. Dw i wir yn gobeithio y bydd Duw wedi ateb eich gweddïau chi, ac y bydda i'n cael dod i'ch gweld chi.
23 Mae Epaffras, sydd gyda mi yn y carchar dros achos y Meseia Iesu, yn anfon ei gyfarchion.