21 Dw i'n ysgrifennu atat ti am fy mod i'n hollol siŵr y gwnei di beth dw i'n ei ofyn, a mwy na hynny.
22 Un peth arall: Cadw ystafell yn rhydd i mi. Dw i wir yn gobeithio y bydd Duw wedi ateb eich gweddïau chi, ac y bydda i'n cael dod i'ch gweld chi.
23 Mae Epaffras, sydd gyda mi yn y carchar dros achos y Meseia Iesu, yn anfon ei gyfarchion.
24 A'r lleill sy'n gweithio gyda mi hefyd, sef Marc, Aristarchus, Demas a Luc.
25 Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist!