3 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
4 Fy ffrind annwyl, dw i'n diolch i Dduw amdanat ti bob tro dw i'n gweddïo drosot ti.
5 Dw i wedi clywed am dy ffyddlondeb di i'r Arglwydd Iesu ac am y ffordd wyt ti'n gofalu am bawb arall sy'n credu ynddo.
6 Dw i'n gweddïo y bydd dy haelioni di wrth rannu gydag eraill yn cynyddu wrth i ti ddod i ddeall yn well gymaint o fendithion sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia.
7 Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi, ffrind annwyl, ac rwyt ti wedi bod yn gyfrwng i galonogi'r Cristnogion eraill hefyd.
8 Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i'w wneud, gan bod yr awdurdod wedi ei roi i mi gan y Meseia.
9 Ond am fy mod i'r math o berson ydw i – Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu – mae'n well gen i apelio atat ti ar sail cariad.