1 Llythyr gan Paul a Timotheus – gweision i'r Meseia Iesu.At bawb yn Philipi sy'n bobl i Dduw ac yn perthyn i'r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn yr eglwys:
2 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
3 Bob tro dw i'n meddwl amdanoch chi dw i'n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi.
4 Dw i'n gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny,
5 am eich bod chi o'r dechrau cyntaf wedi bod yn bartneriaid i mi yn y gwaith o rannu'r newyddion da.
6 Felly dw i'n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.
7 Dych chi'n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae'n naturiol mod i'n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i'n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i mi – sef y gwaith o amddiffyn a rhannu'r newyddion da am Iesu y Meseia.