11 Bydd hynny'n dangos eich bod chi wedi'ch achub! Bydd yn dangos canlyniad gwaith Iesu Grist yn eich bywydau, ac wedyn bydd Duw yn cael ei fawrygu a'i foli.
12 Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi'n gyfle newydd i rannu'r newyddion da.
13 Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod fy mod i yn y carchar am fy mod i'n gweithio i'r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny!
14 Ac mae'r ffaith fy mod i yn y carchar hefyd wedi helpu'r rhai sy'n credu i fod yn fwy hyderus – does ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw.
15 Mae'n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy'n ysgogi rhai i gyhoeddi'r neges am y Meseia, ond mae eraill sy'n gwneud hynny am y rhesymau iawn.
16 Cariad sy'n eu hysgogi nhw, ac maen nhw'n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da.
17 Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae'r grŵp cyntaf – dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau'n anodd i mi tra dw i yn y carchar.