11 a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy'r Arglwydd,ac yn rhoi clod i Dduw y Tad.
12 Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi'n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae'n bwysicach fyth eich bod chi'n ufudd pan dw i'n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned.
13 Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu'r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe.
14 Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo,
15 er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr
16 wrth i chi rannu'r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i yn gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i'n gwybod na fuodd yr holl redeg a'r gwaith caled yn wastraff amser.
17 Mae'n bosib iawn y bydda i'n marw fel merthyr, a'm gwaed i'n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi'n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i'n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi.