19 Dw i'n gobeithio anfon Timotheus atoch chi'n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i.
20 Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae'n teimlo'n union fel dw i'n teimlo – mae ganddo'r fath gonsýrn drosoch chi.
21 Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy'n bwysig i Iesu Grist.
22 Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad.
23 Felly dw i'n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd i mi.
24 Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i'ch gweld chi'n fuan!
25 Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi – brawd ffyddlon arall sy'n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i'm helpu i pan roeddwn i angen help.