24 Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i'ch gweld chi'n fuan!
25 Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi – brawd ffyddlon arall sy'n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i'm helpu i pan roeddwn i angen help.
26 Mae wedi bod yn hiraethu amdanoch chi, ac yn poeni'n fawr eich bod wedi clywed ei fod wedi bod yn sâl.
27 Mae'n wir, roedd e'n wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duw'n garedig ato – ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch.
28 Dyna pam dw i mor awyddus i'w anfon yn ôl atoch chi. Dw i'n gwybod y byddwch chi mor llawen o'i weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint.
29 Felly rhowch groeso brwd iddo. Dylid anrhydeddu pobl debyg iddo,
30 achos bu bron iddo farw wrth wasanaethu'r Meseia. Mentrodd ei fywyd er mwyn fy helpu i, a gwneud ar eich rhan chi beth roeddech chi'n methu ei wneud eich hunain.