3 Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill.
4 Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi'ch hunain.
5 Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu:
6 Roedd e'n rhannu'r un natur â Duw,heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw;
7 ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill,a gwneud ei hun yn gaethwas,a dod aton ni fel person dynol –roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
8 Yna diraddio ei hun fwy fyth,a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw –ie, trwy gael ei ddienyddio ar y groes.
9 Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i'r safle uchaf;a rhoi'r enw pwysica un iddo!