3 Ni, dim nhw, ydy'r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy'n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy'n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi ei wneud i'r corff.
4 Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb!
5 Ces i fy enwaedu yn wythnos oed;dw i'n dod o dras Iddewig pur;dw i'n aelod o lwyth Benjamin;dw i'n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni;roeddwn i'n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl;
6 roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol.Yn ôl y safonau mae'r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i.
7 Roeddwn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach.
8 Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael
9 perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo!