6 roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol.Yn ôl y safonau mae'r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i.
7 Roeddwn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach.
8 Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael
9 perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo!
10 Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto!
11 Bydda innau wedyn yn cael rhannu'r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.
12 Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i'n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae'r Meseia Iesu wedi ei fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i'w ddilyn.