1 Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi'n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati – arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd.
2 Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â'i gilydd am eu bod yn perthyn i'r Arglwydd.
3 A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae'r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o'm cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.
4 Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen!