11 Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy'n digwydd i mi.
12 Dw i'n gwybod sut mae byw pan dw i'n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu'r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy'r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i'n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim.
13 Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny.
14 Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau'n anodd.
15 Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi'r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i – dych chi'n gwybod hynny'n iawn.
16 Hyd yn oed pan roeddwn i yn Thesalonica, dyma chi'n anfon rhodd ata i sawl tro.
17 A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i.