14 Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau'n anodd.
15 Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi'r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i – dych chi'n gwybod hynny'n iawn.
16 Hyd yn oed pan roeddwn i yn Thesalonica, dyma chi'n anfon rhodd ata i sawl tro.
17 A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i.
18 Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae'r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli'n hyfryd, ac yn aberth sy'n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio.
19 Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i'w rannu gyda ni sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
20 Felly, bydded i Dduw a'n Tad ni gael ei foli am byth! Amen!