19 Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i'w rannu gyda ni sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
20 Felly, bydded i Dduw a'n Tad ni gael ei foli am byth! Amen!
21 Cofiwch fi at bob un o'r Cristnogion acw. Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion.
22 Ac mae'r Cristnogion eraill i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi hefyd – yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym mhalas Cesar.
23 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.