2 Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â'i gilydd am eu bod yn perthyn i'r Arglwydd.
3 A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae'r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o'm cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.
4 Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen!
5 Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae'r Arglwydd yn dod yn fuan.
6 Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.
7 Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
8 Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu – am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol.