1 Llythyr gan Paul, gwas i Dduw a chynrychiolydd personol Iesu y Meseia. Dw i'n gweithio er mwyn gweld y rhai mae Duw wedi eu dewis yn dod i gredu, a'u helpu nhw i ddeall y gwir yn well, iddyn nhw allu byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw.
2 Mae'n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau – a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd!
3 Pan ddaeth yr amser iawn daeth â'r newyddion da i'r golwg a rhoi'r cyfrifoldeb i mi i'w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn.
4 Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw y Tad a'r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni.
5 Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o'r trefi.