10 Mae llawer iawn o bobl allan yna sy'n tynnu'n groes i'r gwir. Dw i'n meddwl yn arbennig am yr Iddewon hynny sy'n siarad cymaint o nonsens, ac yn twyllo pobl i feddwl fod mynd trwy ddefod enwaediad yn hanfodol bwysig i gael eich achub.
11 Mae'n rhaid rhoi taw arnyn nhw! Maen nhw wedi cael teuluoedd cyfan i gredu syniadau hollol anghywir. Dim ond eisiau'ch arian chi maen nhw!
12 Mae un o'r Cretiaid eu hunain, un sy'n broffwyd yn eu golwg nhw, wedi dweud, “Mae Cretiaid yn bobl gelwyddog – bwystfilod drwg ydyn nhw, pobl farus a diog!”
13 Ac mae'n hollol wir! Felly rhaid i ti eu rhybuddio nhw'n llym, er mwyn iddyn nhw gredu beth sy'n wir.
14 Dywed wrthyn nhw am beidio cymryd sylw o chwedlau Iddewig, ac i stopio gwrando ar bobl sydd wedi troi cefn ar y gwir.
15 Mae popeth yn bur i'r rhai sydd â chalon bur, ond does dim byd yn bur i'r rhai hynny sydd wedi eu llygru a ddim yn credu. Y ffaith ydy bod meddwl a chydwybod y bobl yma wedi eu llygru.
16 Maen nhw'n honni eu bod nhw'n nabod Duw, ond maen nhw'n ei wadu drwy beth maen nhw'n ei wneud. Pobl gwbl atgas ydyn nhw, ac anufudd i Dduw. Allan nhw wneud dim byd da!