2 Mae'n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau – a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd!
3 Pan ddaeth yr amser iawn daeth â'r newyddion da i'r golwg a rhoi'r cyfrifoldeb i mi i'w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn.
4 Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw y Tad a'r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni.
5 Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o'r trefi.
6 Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd arweinydd yn yr eglwys. Rhaid iddo fod yn ffyddlon i'w wraig, a'i blant yn credu a ddim yn wyllt ac yn afreolus.
7 Rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai, am mai Duw sydd wedi rhoi'r cyfrifoldeb iddo. Dylai beidio bod yn benstiff, nac yn fyr ei dymer. Ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol, a ddim yn gwneud arian ar draul pobl eraill.
8 Dylai fod yn berson croesawgar. Dylai wneud beth sy'n dda, bod yn berson cyfrifol, yn gwbl deg, yn dduwiol ac yn gallu rheoli ei chwantau.