1 Felly, gwna'n siŵr dy fod ti'n dysgu pobl sut i fyw bywydau sy'n gyson â dysgeidiaeth gywir.
2 Dysga'r dynion mewn oed i ymddwyn yn gyfrifol. Dysga nhw i fyw mewn ffordd sy'n ennyn parch pobl, ac i fod yn bwyllog. Dylen nhw fod yn hollol ffyddlon, yn llawn cariad ac yn dal ati trwy bopeth.
3 Dysga'r gwragedd hŷn yr un fath i fyw fel y dylai rhywun sy'n gwasanaethu'r Arglwydd fyw. Dylen nhw beidio hel clecs maleisus, a pheidio yfed gormod. Yn lle hynny dylen nhw ddysgu eraill beth sy'n dda,
4 a bod yn esiampl i'r gwragedd iau o sut i garu eu gwŷr a'u plant.
5 Dylen nhw fod yn gyfrifol, cadw eu hunain yn bur, gofalu am eu cartrefi, bod yn garedig, a bod yn atebol i'w gwŷr. Os gwnân nhw hynny, fydd neb yn gallu dweud pethau drwg am neges Duw.
6 Annog y dynion ifanc hefyd i fod yn gyfrifol.