7 Bydd di dy hun yn esiampl iddyn nhw drwy wneud daioni. Dylet ti fod yn gwbl agored gyda nhw wrth eu dysgu. Gad iddyn nhw weld dy fod ti o ddifri.
8 Gwna'n siŵr dy fod yn dysgu beth sy'n gywir, fel bod neb yn gallu pigo bai arnat ti. Bydd hynny'n codi cywilydd ar y rhai sy'n dadlau yn dy erbyn, am fod ganddyn nhw ddim byd drwg i'w ddweud amdanon ni.
9 Dylai caethweision ymostwng i'w meistri bob amser, a gwneud eu gorau glas i'w plesio nhw. Peidio ateb yn ôl,
10 na dwyn oddi arnyn nhw, ond dangos bod eu meistri'n gallu eu trystio nhw'n llwyr. Wedyn bydd pobl yn cael eu denu at beth sy'n cael ei ddysgu am y Duw sy'n ein hachub ni.
11 Mae Duw wedi dangos ei haelioni rhyfeddol drwy gynnig achub unrhyw un.
12 Mae'n ein dysgu ni i ddweud “na” wrth ein pechod a'n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw'n gyfrifol, gwneud beth sy'n iawn a rhoi'r lle canolog yn ein bywydau i Dduw. Dyna sut dylen ni fyw
13 wrth ddisgwyl am y digwyddiad bendigedig hwnnw pan fydd Iesu Grist, ein Duw mawr a'n Hachubwr ni, yn dod yn ôl yn ei holl ysblander.