2 peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb.
3 Wedi'r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi'n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni'n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau'n eu casáu nhw.
4 Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i'r golwg.
5 Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni'n dda, ond am ei fod e'i hun mor drugarog! Golchodd ni'n lân o'n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy'r Ysbryd Glân.
6 Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni'n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi ei wneud i'n hachub ni.
7 Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni'n gwybod y byddwn ni'n etifeddu bywyd tragwyddol.
8 Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir!Dyma'r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy'n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny'n beth da ynddo'i hun, ac mae'n gwneud lles i bawb.