8 Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir!Dyma'r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy'n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny'n beth da ynddo'i hun, ac mae'n gwneud lles i bawb.
9 Ond paid cael dim i'w wneud â'r dyfalu dwl am achau, a'r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt – mae'r cwbl yn wastraff amser llwyr!
10 Pwy bynnag sy'n creu rhaniadau, rhybuddia nhw i stopio. Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar ôl i ti eu rhybuddio nhw'r ail waith paid cael dim i'w wneud â nhw.
11 Mae pobl felly wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, ac wedi pechu. Nhw sy'n condemnio eu hunain!
12 Dw i'n bwriadu anfon Artemas neu Tychicus atat ti. Cyn gynted ag y bydd y naill neu'r llall wedi cyrraedd tyrd i'm gweld i yn Nicopolis. Dw i wedi penderfynu aros yno dros y gaeaf.
13 Gwna dy orau i helpu Zenas y twrnai ac Apolos ar eu taith. Gwna'n siŵr fod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen.
14 Dylai ein pobl ni ddysgu arwain y ffordd wrth wneud daioni, yn cwrdd ag anghenion y rhai sydd mewn angen go iawn. Fyddan nhw ddim yn gwastraffu eu bywydau felly.