1 Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.
2 Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth,a thithau heb wrando,ac y llefaf arnat, “Trais!”a thithau heb waredu?
3 Pam y peri imi edrych ar ddrygioni,a gwneud imi weld trallod?Anrhaith a thrais sydd o'm blaen,cynnen a therfysg yn codi.
4 Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym,ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo;yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn,a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
5 “Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch;rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu;oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaithna choeliech, pe dywedid wrthych.
6 Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid,y genedl greulon a gwyllt,sy'n ymdaith ledled y ddaeari feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.
7 Arswydus ac ofnadwy ydynt,yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.