Habacuc 3 BCN

Gweddi Habacuc

1 Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth.

2 O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat,a gwelais dy waith, O ARGLWYDD.Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd,datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd,ac yn dy lid cofia drugaredd.

3 Y mae Duw yn dyfod o Teman,a'r Sanctaidd o Fynydd Paran.SelaY mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd,a'i fawl yn llenwi'r ddaear.

4 Y mae ei lewyrch fel y wawr,a phelydrau'n fflachio o'i law;ac yno y mae cuddfan ei nerth.

5 Â haint allan o'i flaen,a daw pla allan ar ei ôl.

6 Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd;pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu;rhwygir y mynyddoedd hena siglir y bryniau oesol;llwybrau oesol sydd ganddo.

7 Gwelais bebyll Cusan mewn helbula llenni tir Midian yn crynu.

8 A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD?A yw dy lid yn erbyn yr afonydd,a'th ddicter at y môr?Pan wyt yn marchogaeth dy feircha'th gerbydau i fuddugoliaeth,

9 y mae dy fwa wedi ei ddarparua'r saethau'n barod i'r llinyn.SelaYr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;

10 pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir.Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen;tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.

11 Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle,rhag fflachiau dy saethau cyflym,rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.

12 Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear,ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.

13 Ei allan i waredu dy bobl,i waredu dy eneiniog;drylli dŷ'r drygionus i'r llawr,a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig.Sela

14 Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyra ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru,fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.

15 Pan sethri'r môr â'th feirch,y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.

16 Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd,cryna fy ngwefusau gan y sŵn;daw pydredd i'm hesgyrn,a gollwng fy nhraed danaf;disgwyliaf am i'r dydd blinwawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.

17 Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo,ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth;er i'r cynhaeaf olew ballu,ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd;er i'r praidd ddarfod o'r gorlan,ac er nad oes gwartheg yn y beudai;

18 eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD,a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.

19 Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth;gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig,a phâr imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.

Penodau

1 2 3