1 Safaf ar fy nisgwylfa,a chymryd fy safle ar y tŵr;syllaf i weld beth a ddywed wrthyf,a beth fydd ei ateb i'm cwyn.
2 Atebodd yr ARGLWYDD fi:“Ysgrifenna'r weledigaeth,a gwna hi'n eglur ar lechen,fel y gellir ei darllen wrth redeg;
3 oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser—daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball.Yn wir nid oeda; disgwyl amdani,oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
4 Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid,ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”